Uwch Swyddog Coedwig

Natural Resources Wales
Permanent
  • Cyflogwr: Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Lleoliad: De’r Canolbarth Cymru (swyddfa Aberystwyth neu Lanymddyfri)
  • Cyflog: £37,308-£40,806 (Gradd 6)
  • Dyddiad Cau: 12/02/2023

Disgrifiad o’r swydd

Mae’r Tîm Gweithgareddau Coedwig yn gyfrifol am reoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yn gynaliadwy i fodloni achrediad dan Gynllun Sicrwydd Coetir y DU ac ISO14001 ac i gyflawni Rheolaeth Gynaliadwy o Adnoddau Naturiol. Mae’r tîm yn rheoli coetiroedd Llywodraeth Cymru yn ardal ddeheuol y Canolbarth (Gorllewin) sy’n ymestyn o Aberystwyth yn y gorllewin i Lanymddyfri yn y dwyrain. Mae’r rhain yn cynnwys cymysgedd o flociau ucheldirol ac iseldirol gan gynnwys gogledd a chanolbarth Tywi, Cwm Berwyn, Llanbedr Pont Steffan, Cross Inn, Tarenig, Myherin a Chwm Ystwyth.

Mae rôl yr Uwch Swyddog yn allweddol ar gyfer datblygu cynlluniau tactegol i gyflawni rhaglenni gweithredol blynyddol. Bydd gofyn gweithio’n agos â thimau o fewn CNC yn ogystal â chyflenwyr, cwsmeriaid a rhanddeiliaid i sicrhau bod y cynlluniau hyn yn cael eu cyflawni ar amser a hefyd eu bod yn bodloni’r safonau ansoddol ac yn rhoi gwerth am arian.

Disgwylir i’r unigolyn wneud y canlynol:

  • Datblygu cynlluniau pum mlynedd tactegol a fydd yn cynnwys llwyrgwympo, teneuo yn ogystal ag addasu i ddefnyddio Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith, ailstocio, rhaglenni sefydlu a chynnal a chadw.
  • Cynhyrchu proffiliau cyllideb blynyddol mewn cydweithrediad â’r Arweinydd Tîm ac adrodd yn rheolaidd ar y cynnydd.
  • Asesu Cynlluniau Adnoddau Coedwig strategol arfaethedig i sicrhau bod ystod eang o amcanion yn cael eu gweithredu i fodloni Safon Coedwigaeth y DU.
  • Cefnogi’r tîm ehangach o ran rheoli gweithrediadau pan fo angen.
  • Cymryd cyfrifoldeb dros reoli data isadrannol.
  • Rheoli prosiectau penodol pan fo angen.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu arddangos ei fod yn llawn cymhelliant a bod ganddo syniadau arloesol.

Os hoffech ymweld â’r safle i drafod y rôl yn ogystal â gweld yr amgylchedd gwaith, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Rhaid cael trwydded yrru lawn y DU.

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Gweithredu fel arweinydd technegol Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer sectorau neu faterion technegol penodol.
  • Cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu cynlluniau gwaith tîm a gweithredu unrhyw gamau y cytunwyd arnynt er mwyn cyfrannu at gynllunio busnes. Lle y bo’n briodol, gweithredu fel arweinydd Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer sectorau penodol technegol.
  • Bydd yn ofynnol i gymryd rhan yng ngrwpiau technegol/strategol Cyfoeth Naturiol Cymru neu gynrychioli Cyfoeth Naturiol Cymru ar fforymau allanol.
  • Rhyngweithio ag arbenigwyr eraill yn Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn hyrwyddo arferion cyson y diwydiant a phynciau arbenigol.
  • Bod â chyfrifoldeb uniongyrchol am gyflawni rhaglenni a ddirprwywyd a rheoli cyllidebau y cytunwyd arnynt, yn cynnwys yr holl gydymffurfiaeth berthnasol a glynu at y broses gaffael.
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.

Cymwysterau, profiad a gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:

  1. Aelodaeth broffesiynol, neu o leiaf yn gweithio tuag at yr achrediad o’r pwnc perthnasol, o fewn amserlen y cytunir arni.
  2. Profiad o weithio ar draws ystod eang o ddisgyblaethau rheoli tir.
  3. Gwybodaeth am reoli coedwigoedd yn gynaliadwy, Cynllun Ansawdd Coetiroedd y Deyrnas Unedig a chynlluniau ardystio coedwigoedd.
  4. Sgiliau hyfforddi a mentora.
  5. Dealltwriaeth dda o brosesau a phwysau busnesau masnachol.
  6. Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol â busnesau a reoleiddir a’r cyhoedd, gan esbonio materion cymhleth ac ennill cefnogaeth drwy ddylanwadu.
  7. Gwybodaeth a phrofiad helaeth o bob agwedd ar arferion coedwigoedd, gan gynnwys cynllunio coedwigoedd a gweithrediadau coedwigoedd.

Gofynion y Gymraeg:

Hanfodol Lefel 1 – Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cymwyseddau

Noder – Bydd ceisiadau i’r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a’r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi’ch ffurflen gais.

Gwybodaeth a sgiliau hanfodol
  • Y gallu i ymgymryd â lefel uwch o dasgau ymarferol neu dechnegol, sy’n gofyn am wybodaeth/arbenigedd arbenigol. Mae’n bosib y bydd deiliaid y swyddi yn arbenigwr mewn ystod o bynciau sy’n ymwneud â’i broffesiwn.
  • Bydd gan ddeiliaid y swyddi brofiad sylweddol o reoli contractau a byddant yn gallu cyflawni contractau o gymhlethdod, risg ac effaith lefel ganolig. Mae gwybodaeth am gyfraith contractau a rheoli/llywodraethu contractau a chanlyniadau hynny yn hanfodol. Bydd gan ddeiliaid y swyddi y gallu i ddatblygu briffiau a manylebau ar gyfer contractau.
  • Bydd deiliaid y swyddi yn arddangos gwybodaeth dechnegol yn eu disgyblaeth a bydd ganddynt brofiad perthnasol.
  • Bydd gan ddeiliaid y swyddi lefel uchel o wybodaeth am iechyd, diogelwch a llesiant, a phrofiad ohonynt yn ogystal â diogelwch cyhoeddus ac atebolrwydd cyhoeddus.
Gwerthuso gwybodaeth
  • Yn dehongli cynlluniau cyflenwi gweithredol y swyddogaeth ac yn deall eu cyd-destun o fewn strategaeth ehangach CNC.
  • Y gallu i ddehongli contractau a chyfraith contractau acyn gallu asesu a gwerthuso ymholiadau am gontractau, heriau, a diffyg cydymffurfiaeth â chontractau.
  • Y gallu i ddadansoddi, deall a chyfleu gofynion y sefydliad mewn briffiau a manylebau contract.
  • Y gallu i ddadansoddi a dehongli amrediad eang o wybodaeth gymhleth, gan ddethol pwyntiau allweddol a’u cyfleu i unigolion ar bob lefel, a chyfrannu at ddatblygu polisi.
Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth
  • Cael ei arwain gan ganlyniadau disgwyliedig ond yn gallu penderfynu ar y ffordd orau o’u cyflawni.  Mae’n bosib y darperir arweiniad gan gymheiriaid ond mae’n debygol y bydd angen defnyddio ychydig o ddyfarniad neu greadigrwydd. Efallai y bydd angen newid blaenoriaethau oherwydd galwadau sy’n gwrthdaro. Bydd amcanion a thargedau ac ati yn cael eu hadolygu ar sail ganolraddol.
  • Bydd deiliaid y swyddi yn cyflwyno rhaglenni gwaith sy’n aml yn sylweddol.
  • Yn gyfrifol am wneud penderfyniadau annibynnol ar lefel weithredol gyda mewnbwn gan reolwyr llinell a chyfoedion. Yn meddu ar ddealltwriaeth o bolisi CNC a’u goblygiadau posibl i’r busnes.  Fel rheolwr contractau lefel ganolig, mae deiliaid y swyddi yn atebol am bob agwedd ar gyflawni a pherfformiad.
  • Gellir gwneud penderfyniadau sy’n arwain at newidiadau yn y weithdrefn/arfer sefydledig. Bydd canlyniadau gwneud penderfyniadau anghywir yn cael effaith andwyol ar y sefydliad mewn perthynas â’i randdeiliaid allanol, megis sefydliadau partner, rhoddwyr benthyciadau, defnyddwyr gwasanaeth ac ati.
  • Efallai y bydd penderfyniadau’n ymwneud ag amrediad eang o faterion ac ni fydd canlyniadau rhai penderfyniadau bob amser yn glir neu’n amlwg. Efallai y bydd problemau sy’n dod i’r golwg hefyd yn ymwneud â’r gwaith mewn rhannau eraill o’r sefydliad a gall y rhain fod yn amrywiol. Bydd penderfyniadau yn debygol o gael effaith ehangach na’r swyddogaeth neu’r adran uniongyrchol ac yn debygol o barhau dros y tymor canolig.
Effaith
  • Bydd gan ddeiliaid y swyddi lefel gymedrol o effaith a dylanwad, a fydd o natur tymor canolig yn gyffredinol.
  • Bydd penderfyniadau a gweithredoedd deiliad y swydd yn dylanwadu ar eraill.
  • Bydd canlyniadau ei benderfyniadau/gweithredoedd yn cael effaith tymor canolig yn fewnol neu’n allanol.
  • Mae deiliaid y swyddi yn gyfrifol am gyflawni a chanlyniadau cyffredinol yr ystod o gontractau sy’n cael eu rheoli.
Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill
  • Fel sefydliad sy’n wynebu’n allanol, bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli’r cydberthnasau â sefydliadau a chontractwyr trydydd parti.
  • Y gallu i gyfathrebu’n ysgrifenedig ac ar lafar, a/neu arwain prosiectau, sy’n gofyn am sgiliau perswâd da. Efallai y bydd y gwaith hwn yn cynnwys hwyluso a/neu gyflwyno mewn cyfarfodydd mewnol neu allanol, gan gynnig cyngor a mewnbwn fel sy’n ofynnol.  Bydd gofyn meithrin a chynnal cydberthnasau a rhwydweithiau da.
  • Bydd deiliaid y swyddi fel arfer yn cynhyrchu dogfennau llai cymhleth, fel adroddiadau, cyfrifon, contractau ac ati. Bydd y cynnwys yn cynnwys lefel is o gyngor, arweiniad neu farn y bydd y derbynnydd yn gweithredu arnynt neu’n eu defnyddio, ac y byddai’n debygol o gael effaith andwyol pe bai’n anghywir neu’n cael ei ddrafftio’n wael.
  • Y gallu i ddod o hyd i wybodaeth o sawl lleoliad trwy ymchwil a chymhwyso barn broffesiynol ynghylch sut y dylid dehongli’r deunydd, y mae ei effaith yn debygol o bara am dymor canolig.

Manteision gweithio i ni

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud cais

Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’u cwblhau at Ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost

Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau i wneud cais 12 Chwefror 2023

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar 21 Chwefror 2023

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Marius Urwin  marius.urwin@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu 07887626317 neu Alan Wilson ar alan.wilson@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk  Rhwng 3ydd Ionawr I 6ed.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy’n bodloni’r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Skip to content