Sut y bydd yn gweithio

Dylai gwasanaeth natur cenedlaethol fod yn gyffredinol. Mae gan bawb yr hawl i gymryd rhan yn y cynllun ac elwa ohono, p’un a ydyn nhw’n gadael ysgol, yn oedolion di-waith neu’n bobl sy’n edrych i ail-hyfforddi ar gyfer rhagolygon gwell yn y dyfodol. Bydd yn integredig ac yn gynhwysol – yn gweithredu ar draws ffiniau sectoraidd a thematig (e.e. ffermio, yr amgylchedd, coedwigaeth a defnyddiau tir eraill; ysgolion, sectorau AB ac AU; sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector). Bydd yn gynhwysol yn ddaearyddol – gan gofleidio amgylcheddau gwledig, trefol a chymysg.

Pa mor fawr, pa mor bell, faint y dylid ei fesur yn ôl sut mae’n gwella’r byd naturiol o’n cwmpas.

Skip to content