Tystiolaeth

Mae’r adroddiadau isod yn dangos y cyfle a’r angen am Wasanaeth Natur Cenedlaethol i Gymru.

Gallai swyddi gwyrdd helpu i atal degawdau o greithiau economaidd

Mae ystadegau Cyfeillion y Ddaear yn dangos y gallai’r buddsoddiad sydd ei angen mewn swyddi gwyrdd helpu i atal effaith y creithio economaidd o gyfnodau o ddiweithdra o achos Covid yn ogystal â sicrhau nad yw nodau hinsawdd sero net yn cael eu dileu.

Gweithredu ar yr argyfwng natur a hinsawdd

Mynd i’r afael ag argyfyngau natur a hinsawdd parhaus drwy harneisio pŵer pobl Cymru i adfer a diogelu’r amgylchedd naturiol

Creu ceidwaid

Sicrhau bod pawb yng Nghymru yn y dyfodol yn deall, ac yn gwybod sut i fod yn geidwaid da ar y systemau naturiol sy’n caniatáu i fywyd yn ein cymunedau – ac ar y ddaear – ffynnu.

Trosolwg o'r achos dros Wasanaeth Natur Cenedlaethol

Mae RSPB Cymru yn annog Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn adfer, creu a rheoli cynefinoedd drwy gynllun swyddi a sgiliau gwyrdd fel y Gwasanaeth Natur Cenedlaethol.

Buddsoddi mewn seilwaith a sgiliau ar gyfer adferiad cynaliadwy

Comisiynodd TUC Cymru yr adroddiad hwn sy’n argymell 16 o brosiectau seilwaith gwerth cyfanswm o £6 biliwn mewn buddsoddiad cyhoeddus a all greu dros 59,000 o swyddi yng Nghymru am y ddwy flynedd nesaf. Mae’r prosiectau’n bodloni set o feini prawf sy’n deillio o Fanc y Byd gan gynnwys creu swyddi hirdymor, gwydnwch a chynaliadwyedd.

Mae gan fuddsoddiad adfer natur botensial ar gyfer adferiad gwyrdd

Mae’r New Economics Foundation (NEF) yn tynnu sylw at y datblygiad gwael yn sgiliau oedolion Cymru cyn y pandemig ac yn amlinellu’r potensial sydd gan adfer natur a sectorau eraill i feithrin swyddi ar gyfer adferiad gwyrdd. Blaenoriaeth allweddol yn ôl yr adroddiad yw i raglenni cyflogadwyedd a sgiliau Llywodraeth Cymru sicrhau eu bod yn paratoi gweithwyr ar gyfer diwydiannau’r dyfodol.

Mae swyddi gwyrdd medrus yn hanfodol i adferiad

Mae’r achos dros swyddi gwyrdd medrus yn cael ei gefnogi gan Gyswllt Amgylchedd Cymru – rhwydwaith o gyrff anllywodraethol amgylcheddol, cefn gwlad a threftadaeth.

Skip to content