Cynorthwyydd Cyfryngau Cymdeithasol

RSPB Logo
Fixed Term (12 months)
  • Cyflogwr: RSPB Cymru
  • Lleoliad: RSPB Cymru HQ (CF11 9AB) or RSPB North Wales Office (LL57 4FH) with option of hybrid working
  • Cyflog: £19,305.00 - £21,417.00 Per Annum
  • Dyddiad Cau: 17/02/2023

Disgrifiad o’r swydd

Diolch yn fawr am ddangos diddordeb yn y lleoliad hwn gyda Newydd i Natur. Mae Newydd i Natur yn rhaglen gyffrous o leoliadau gwaith cyflogedig mewn rolau sy’n canolbwyntio ar natur.

Mae hon yn un o 70 o rolau a fydd yn cael eu creu ar draws y DU i ddenu doniau ifanc ac amrywiol i’r sector Amgylchedd Naturiol.

Rydyn ni’n arbennig o awyddus i gael ceisiadau gan bobl ifanc (18-25 oed) sy’n dod o gefndiroedd ethnig amrywiol, sy’n byw ag anabledd neu sy’n dod o aelwydydd incwm isel.

Byddwch yn cael cyflog da ar leoliad sy’n helpu’r amgylchedd, yn dysgu llwyth o sgiliau i roi hwb i’ch CV ac yn cael cymorth gan Hyfforddwr Cyflogaeth Ieuenctid i’ch helpu i gynllunio eich gyrfa i’r dyfodol. Bydd cyfleoedd hefyd i ddysgu am yrfaoedd posibl yn yr amgylchedd naturiol, ac (os oes gennych chi awydd) cysylltu â’r bobl ifanc eraill sy’n gweithio mewn rolau gyda Newydd i Natur ar hyd a lled y wlad.

Dyma gyfle unigryw i roi cynnig ar rywbeth newydd, ac i gymryd y cam cyntaf ar lwybr gyrfa lle gallwch chi wneud gwahaniaeth go iawn. Mae eich angen chi ar yr amgylchedd naturiol!

Gobeithio y byddwch chi’n ymuno â ni ar y daith gyffrous hon!

GWYBODAETH AM RSPB Cymru

Pwy ydym ni
Yr RSPB yw’r elusen cadwraeth byd natur fwyaf yn y DU, ac rydym yn sicrhau cadwraeth lwyddiannus yn gyson, yn creu partneriaethau newydd pwerus gyda sefydliadau eraill ac yn ysbrydoli eraill i weithredu ac i roi cartref haeddiannol i fyd natur.

Ein gweledigaeth
Ein gweledigaeth yw creu byd sy’n fwy cyfoethog o ran byd natur. Rydym yn defnyddio ein harbenigedd mewn adar a byd natur i ddarparu atebion sy’n seiliedig ar dystiolaeth i’r argyfwng hinsawdd a byd natur, gan helpu pobl i fyw’n dda mewn cytgord â byd natur. Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i gadw rhywogaethau cyffredin yn gyffredin, i adfer rhywogaethau sydd dan fygythiad, i ddiogelu ac adfer lleoedd arbennig, ac i ysbrydoli a galluogi pawb i weithredu dros fyd natur.

Ein pwrpas
Rydym yn gweithio i hybu cadwraeth adar, bywyd gwyllt arall a byd natur, drwy warchod ac adfer cynefinoedd a thirweddau, achub rhywogaethau a chysylltu pobl â natur. Rydym yn gwneud gwaith cadwraeth y gallwch ei weld o’r gofod, wedi’i adeiladu o’r ddaear i fyny. Rydym yn credu fod y blaned yn wynebu argyfwng hinsawdd a byd natur a bod gennym ddyletswydd foesol i adael byd natur mewn sefyllfa well i genedlaethau’r dyfodol. Rydym yn credu fod gan bob rhywogaeth hawl i fodoli, a bod natur yn hanfodol i iechyd a lles pobl. Mae gennym ddyletswydd foesol i adael byd natur mewn sefyllfa well i genedlaethau’r dyfodol. I gael rhagor o wybodaeth am yr RSPB, ewch i: rspb.org.uk/

PROSES RECRIWTIO

DISGRIFIAD O’R SWYDD

Ydych chi’n frwd dros ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i adrodd straeon? Oes gennych chi ddiddordeb mewn datblygu sgiliau cyfathrebu a marchnata ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol?

Mae gennym gyfle cyffrous i berson ifanc a fyddai’n hoffi defnyddio a datblygu ei sgiliau digidol ochr yn ochr â thîm cyfathrebu RSPB Cymru i greu cynnwys ysbrydoledig a diddorol ar gyfer ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Byddwch yn dod â’ch syniadau a’ch creadigrwydd eich hun i’n hymgyrchoedd cyfathrebu allweddol drwy gydol y flwyddyn.

Fel Cynorthwyydd Cyfryngau Cymdeithasol, byddwch yn:

  • Cefnogi’r Swyddog Cyfathrebu i greu cynnwys diddorol a llawn gwybodaeth ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol er mwyn hyrwyddo gwaith, ymgyrchoedd a newyddion RSPB Cymru i gynulleidfaoedd ar draws Cymru. Gallai hyn fod yn helpu i hyrwyddo’r arolwg Gwylio Adar yr Ardd neu helpu i drefnu bod pobl ifanc yn cymryd rhan yn ein cyfryngau cymdeithasol.
  • Cyfathrebu gan ddefnyddio gwerthoedd a chanllawiau brand yr RSPB i sicrhau bod brand yr RSPB yn cael ei gyflwyno’n gyson ac yn gywir.
  • Meithrin perthynas dda a chyfathrebu’n effeithiol â chydweithwyr, gwirfoddolwyr a sefydliadau allanol, i wneud yn siŵr bod RSPB Cymru yn cael ei chynrychioli mewn ffordd gadarnhaol.
  • Monitro’r cyfryngau cymdeithasol a helpu i werthuso beth mae dilynwyr yn ymateb iddo a sut gallwn ni wella yn y dyfodol.
  • Trwy weithio gyda’n tîm cyfathrebu byddwch yn dysgu llawer am wahanol rannau o’n gwaith, megis ein hymgyrchoedd a’n digwyddiadau neu ein gwaith i achub natur. Byddwch hefyd yn cael cyfle i gefnogi, cysgodi a dysgu gan dimau eraill sy’n gweithio yng Nghymru. Bydd y swydd hon yn ffordd wych o ddatblygu eich sgiliau ar gyfer gyrfa ym maes cyfathrebu neu farchnata yn y dyfodol.

Sut i wneud cais

You can apply for this placement via the following link: www.surveymonkey.co.uk/r/NTNPlacementApplication22

This is hosted by Groundwork UK who will check the suitability of applicants, before passing the application on to the placement organisation, who will shortlist applicants to an informal interview process.

Please ensure you carefully select the correct role from the drop-down list, to ensure your details are passed to the correct placement organisation.

If you have any questions about the application form, contact Groundwork UK at: newtonature@groundwork.org.uk

Skip to content